Skip to content
maxnews
World

Pum munud gyda'r chwedleuwr Fiona Collins

Cyfle i ddod i adnabod y chwedleuwr proffesiynol, Fiona Collins ychydig yn well.

Iwan Arwel

Updated 4 min read

FB𝕏
Fiona Collins
Fiona enillodd gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2019Photo: Eisteddfod Genedlaethol

Nid pob dydd mae rhywun yn clywed am berson sy'n gweithio fel chwedleuwr proffesiynol.

Dyna'n union yw swyddogaeth Fiona Collins o Garrog yn Nyffryn Dyfrdwy.

Un o Hampshire yw Fiona yn wreiddiol, ond mae hi wedi dysgu Cymraeg ac wedi ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2019.

Mae Fiona newydd ryddhau cyfrol newydd ar y Tylwyth Teg yng Nghymru sy'n addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd.

Dyma ddod i adnabod Fiona ychydig yn well a chael clywed mwy am ei gwaith a'i diddordebau.

Soniwch ychydig amdanoch chi eich hun a'ch cefndir

Dwi'n byw yng Ngharrog yn Nyffryn Dyfrdwy ers dros 20 mlynedd. Mae'n ardal hanesyddol, chwedlonol, cyfeillgar a phrydferth iawn.

Dwi'n dod o Hampshire yn Ne Lloegr yn wreiddiol, y bedwaredd o bum chwaer. Magwyd Mam yn Llansawel, ond aeth hi i Lundain i hyfforddi fel nyrs. Wedi gweithio yn Llundain gydol yr Ail Ryfel Byd, symudodd hi wedyn i weithio'n Hampshire.

Mae gen i un mab ac un wyres. Cafodd fy mab ei eni ar Ynys Môn ond aethon ni i Lundain i fyw am gyfnod aeth yn hirach nag o'n i'n ei ddisgwyl.

I ddechrau, ro'n i'n mwynhau bywyd y ddinas fawr, ond wedi tipyn, o'n i'n hiraethu am Gymru.

Yn 2000 meddyliais: 'Os dwi am wneud newid mawr yn fy mywyd, tybiaf mai blwyddyn y mileniwm oedd yr amser gorau i wneud hynny.'

Dyna pan symudais yn ôl i Gymru a dwi'n falch iawn hyd heddiw o'r penderfyniad!

Carrog
Mae Fiona wrth ei bodd yn byw yng NgharrogPhoto: Fiona Collins

Soniwch am eich gwaith fel Chwedleuwr

Dwi wedi bod yn chwedleuwr proffesiynol ers dros 30 mlynedd, yn gweithio gyda phobl o bob oedran a galluoedd mewn lleoliadau amrywiol.

Dwi'n adrodd chwedlau traddodiadol yn fy ngeiriau fy hun.

Dwi wir yn hoff iawn o chwedl yn yr awyr agored, yn arbennig yn y lleoedd ble ddigwyddodd y chwedl, fel Tomen y Mur, caer Lleu a Blodeuwedd y Mabinogi, neu yng Nghorwen tra'n rhannu chwedlau am Owain Glyndŵr (maen nhw'n cyd-fynd ag ei hanes go iawn).

O ble daeth y diddordeb mewn Tylwyth Teg?

Mae gen i ddiddordeb mewn pob math o chwedlau a chreaduriaid chwedlonol.

Y llyfr Chwedlau o Gymru: Y Tylwyth Teg ydy'r drydedd mewn cyfres o dri llyfr llawn chwedlau, bob un gyda thema wahanol.

I fod yn onest, dewis Myrddin ap Dafydd o Wasg Carreg Gwalch oedd y tylwyth teg. Ro'n i'n fodlon iawn cyd-fynd â'i ddewis o.

Tri llyfr
Dyma'r tri llyfr y mae Fiona wedi'i ysgrifennuPhoto: Fiona Collins

Beth sydd mor ddiddorol am y pwnc yma a pha mor gyfoethog ydy Cymru o'r math yma o straeon?

Dwi'n credu fod gan yr hen chwedlau ddoethineb hynafol, er weithiau mae o'n ddieithr i ni.

Mae llawer o chwedlau o Gymru wedi mynd ar goll, ond mae beth sydd yn parhau yn rhoi blas i ni am hen ddiwylliant y wlad.

Mae gan bob cwr o Gymru ei chwedlau priodol. Mae dod yn gyfarwydd â chwedlau ein bro yn ffordd dda i gyfoethogi ein perthynas gydag ein milltir sgwâr.

Soniwch am eich cyfrol newydd

Mae Chwedlau o Gymru: Y Tylwyth Teg yn rhan o gyfres Amdani ac yn addas i ddysgwyr ar ddechrau eu taith iaith.

Dyma fy nhrydydd llyfr o chwedlau yn y Gymraeg ar ôl cyhoeddi Chwedlau o Gymru: Ceffylau a Chwedlau o Gymru: Y Môr.

Dwi wedi bod mor ffodus i gyd-weithio arnyn nhw i gyd gyda'r artist Natalie Griffiths o Wrecsam, sydd, fel finnau, yn dysgu Cymraeg.

Mae lluniau Natalie yn drawiadol ac yn dod â'r chwedlau yn fyw ar y dudalen. Yn arbennig dwi'n falch o sut mae ei chymeriadau yn cynrychioli pobl o grwpiau hil wahanol, sydd yn adlewyrchu Cymru gyfoes ac yn creu cysylltiad rhwng y byd 'amser maith yn ôl' a'n byd cyfoes ni.

Roedd Delyth Medi Jones yn golygu'r llyfr, ac fel yr unig Gymraes Gymraeg rhwng y dair ohonon ni, roedd hi'n allweddol i gadw'r iaith ar y llwybr iawn.

Dwi'n ddiolchgar iawn i'r ddwy ohonyn nhw, ac wrth gwrs hefyd i Myrddin, am ei ffydd mewn dysgwr gyda breuddwyd i'w gwireddu.

Fiona yn y lansiad
Fiona yn ystod lansiad ei llyfr diweddara am y Tylwyth TegPhoto: Fiona Collins

Soniwch am eich profiad a'ch siwrne o ddysgu a sgwennu yn y Gymraeg

Roedd Mam yn Gymraes, er di-Gymraeg oedd hi. Fi yw'r cyntaf yn y teulu i ddysgu Cymraeg, a thybiaf y basai Mam yn falch o wybod mod i'n gallu siarad iaith y nefoedd.

Ro'n i'n deall yr oedd yn bwysig i allu siarad Cymraeg, er mwyn adrodd chwedlau'r wlad.

Dwi'n chwedleua yn Saesneg, fy mamiaith, a Chymraeg, fy ail iaith, a ro'n i'n Ddysgwr y Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2019.

Wedi derbyn y fraint hon, penderfynais mai cyfrifoldeb i gefnogi fy nghyd-ddysgwyr oedd yn cyd-fynd â'r anrhydedd, a dyma beth dwi'n ceisio i'w wneud ers hynny, wrth gyflwyno'r iaith a'r diwylliant trwy rannu chwedlau mewn Cymraeg syml a chlir iddyn nhw, neu yn ddwyieithog.

Nes i ddanfon e-bost at Myrddin ap Dafydd, gan ddweud: 'Da chi ddim yn fy nabod i, ond hoffwn ysgrifennu llyfr o chwedlau ar gyfer dysgwyr. Fydd hyn yn bosib?'

Ges i ateb calonogol, cefnogol a chyflym y bore wedyn, gyda Myrddin yn fy ngwahodd i fynychu cyfarfod awduron, gyda'r nod o drafod cyfres newydd o lyfrau ar gyfer dysgwyr, y gyfres Amdani.

Erbyn hyn, dwi wedi cyhoeddi tri llyfr, pob un yn cynnwys chwe chwedl draddodiadol ledled Cymru. Gobeithio y byddent yn plesio'r darllenwyr!

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, X, Instagram neu TikTok.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected] neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Source: BBC NewsRead the original

Comments (0)

0/2000 characters

Posting a comment identifies your browser with an anonymous fingerprint, stored only as a salted hash, to count one per visitor. Privacy

No comments yet. Be the first.

All news